Joseph Rowntree Foundation

<<< yn ôl i'r dudalen gartref

Y Comisiynwyr

Derec Llwyd Morgan (Cadeirydd)

Bu Derec Llwyd Morgan yn Is-ganghellor Prifysgol Cymru, Aberystwyth (1995-2004) ac yn Uwch Is-ganghellor Prifysgol [Ffederal] Cymru (2001-2004).

Gwasanaethodd ar Gyngor Darlledu Cymru yn y nawdegau cynnar a bu'n Aelod dros Gymru ar y Comisiwn Teledu Annibynnol o 1999 tan 2003. Mae'n gyn-Athro yn y Gymraeg, yn fardd ac yn feirniad llenyddol, ac ef yw Cadeirydd Ymddiriedolaeth Kyffin Williams, ac mae'n aelod o Ymddiriedolaeth Pantyfedwen.

Tim Bennett

Mae Tim Bennett, sy'n ffermwr cenhedlaeth-gyntaf, wedi bod yn ffermio ger Caerfyrddin yn ne orllewin Cymru am 30 mlynedd, gan gynhyrchu llaeth, wyau a chig eidion Aberdeen Angus.

Ef yw Cadeirydd Cysgodol Bwrdd y Sector Llaeth ers mis Mawrth 2007, mae hefyd yn aelod o Fwrdd Ardollau'r DU (Y Bwrdd Datblygu Amaethyddol a Garddwriaethol o Ebrill 1af 2008) ac yn aelod o fwrdd yr Asiantaeth Safonau Bwyd a'r Gwasanaeth Hylendid Cig.

Mae hefyd yn aelod o gyngor Food From Britain, yn un o ymddiriedolwyr FWAG (Grŵp Ymgynghorol Ffermio a Bywyd Gwyllt), ac yn aelod o'r Tribiwnlys Tir Amaethyddol yng Nghymru.

Ac yntau wedi bod yn Llywydd Undeb Cenedlaethol y Ffermwyr ac yn un o Lywodraethwyr y Sefydliad Ymchwil Tir Glas a'r Amgylchedd, mae'n un o Gymrodyr y Sefydliad Dosbarthu Bwydydd ac yn un o Gyfeillion y Cymdeithasau Amaethyddol Brenhinol.

Owain Llywelyn

Ac yntau wedi'i fagu a'i addysgu ym Methesda, Gwynedd, mae Owain Llywelyn yn Syrfëwr Siartredig sydd, am y 25 mlynedd ddiwethaf, wedi bod yn cynghori ystod eang o gleientiaid yn y sector cyhoeddus a'r sector preifat yn y DU ynghylch materion sy'n ymwneud ag eiddo masnachol. Mae Owain yn un o Gymrodyr Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig (RICS), ac mae wedi bod yn Gadeirydd Cyngor RICS am ryw 6 blynedd ac fe wnaeth gyfraniad mawr tuag at gael statws Cymdeithas Genedlaethol i'w aelodaeth yng Nghymru.

Cafodd Owain ei ethol yn Gadeirydd am rai blynyddoedd gan gynrychioli tref Pontypridd a bu'n Gadeirydd ar nifer o bwyllgorau gan gynnwys Cynllunio, Polisi a Datblygu Economaidd. Ar hyn o bryd mae'n rhedeg ymgynghoriaeth eiddo masnachol ac mae'n Brif Ddarlithydd ym Mhrifysgol Morgannwg.

Iwan Parry

Mae Iwan Wyn Parry wedi bod yn gweithio fel Milfeddyg yn Nolgellau am 20 mlynedd. Ers 1987 mae wedi bod yn gyfrifol am ddatblygu'r filfeddygfa o un â thri pherson i un ag un ar ddeg o filfeddygon gan ddarparu gwasanaeth milfeddygol ar gyfer ardal wledig fawr Gogledd a Chanolbarth Cymru.

O ganlyniad mae ganddo brofiad uniongyrchol o gychwyn a chynnal busnes yng Nghymru wledig ac mae'n deall y problemau difrifol sy'n bodoli yn yr ardal yng nghyd-destun tai fforddiadwy.

Aneurin Phillips – Prif Weithredwr Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri

Ac yntau'n gynlluniwr wrth ei alwedigaeth ac yn gyn-aelod o'r Sefydliad Cynllunio Trefol Brenhinol, penodwyd Aneurin i swydd Prif Weithredwr yn 2003. Cyn ymuno ag Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri roedd yn Bennaeth Gwasanaethau Cynllunio gyda Chyngor Sir Dinbych (1996 - 2003) ac yn Ddirprwy Swyddog Cynllunio Dosbarth gyda Chyngor Dosbarth Glyndŵr (1992 – 1996).

Pan oedd yn Bennaeth y Gwasanaethau Cynllunio yn 2002, daeth Cyngor Sir Dinbych i fod yr awdurdod cynllunio lleol cyntaf yng Nghymru i fabwysiadu Cynllun Datblygu Unedol. Yn fwy diweddar bu'n Gadeirydd y grŵp partneriaeth Cymru gyfan a gynhyrchodd becyn cymorth ar gyfer asesu effaith datblygu ar yr iaith Gymraeg, sef Cynllunio a'r Iaith Gymraeg: y Ffordd Ymlaen (2005).

Yn ogystal â'i ymrwymiad i'r Parc Cenedlaethol, Aneurin yw Ysgrifennydd Cymdeithas Awdurdodau Parciau Cenedlaethol Cymru. Mae gan Aneurin raddau mewn Daearyddiaeth (BA, Aberystwyth) a Chynllunio Trefol (MA, Caerdydd).

Vivienne Sugar, Cadeirydd Cyngor Defnyddwyr Cymru

Daeth Vivienne Sugar yn Gadeirydd Cyngor Defnyddwyr Cymru ym mis Ebrill 2003, yn fuan wedi'i hymddeoliad fel Prif Weithredwr Dinas a Sir Abertawe, swydd yr oedd wedi'i dal ers 1995.

Mae Vivienne bellach yn gweithio fel Ymgynghorydd i'r Llywodraeth a Llywodraeth Leol ac mae'n Ymgynghorydd Annibynnol ar gyfer Penodiadau Cyhoeddus. Rhwng 2002 a 2004, roedd hefyd yn aelod o Gomisiwn Richard, a oedd yn gyfrifol am adolygu pwerau a threfniadau etholaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Mae'n un o Gyfeillion y Sefydliad Tai Siartredig a hithau wedi bod yn Gyfarwyddwr Tai yng Nghaerdydd a Chasnewydd. Yn 2005 fe'i penodwyd yn Ymgynghorydd Cymreig i Sefydliad Joseph Rowntree a daeth hefyd yn Is-lywydd Prifysgol Abertawe.

Paul Milbourne – Arweinydd Academaidd

Mae Paul Milbourne yn Athro yn Ysgol Cynllunio Dinesig a Rhanbarthol Prifysgol Caerdydd.

Mae'i ddiddordebau ymchwil yn cynnwys daearyddiaeth tlodi, tai, digartrefedd a lles, gyda chanolbwynt arbennig ar ardaloedd gwledig. Ef yw Cyfarwyddwr Canolfan y Brifysgol er Ymchwil i'r Amgylchedd, Cymdeithas a Gofod, ac ef hefyd yw Cyfarwyddwr Arsyllfa Wledig Cymru, a ariennir gan Lywodraeth Cynulliad Cymru.

Share/bookmark this page

© Joseph Rowntree Foundation 2008

Investors in Diversity