Y Comisiwn ar Dai Gwledig yng Nghymru
![]() |
Y Diweddaraf
Cafodd adroddiad terfynol y Comisiwn ar ei ganfyddiadau, ei gasgliadau a’i argymhellion ei gyhoeddi ar Fehefin 4ydd 2008:
- Y mae ar Gymru wledig angen mwy o gartrefi y gall pobl eu fforddio (Datganiad i’r wasg gan JRF, 1 dudalen, PDF)
- Tai Gwledig yng Nghymru (Crynodeb o’r Canfyddiadau, 4 tudalen, PDF)
- Comisiwn JRF ar Dai Gwledig yng Nghymru: Adroddiad terfynol (yr adroddiad yn llawn, 52 o dudalennau, PDF)
Cyflwyniad
Y mae'r Comisiwn ar Dai Gwledig yng Nghymru’n gorff annibynnol a sefydlwyd gan Sefydliad Joseph Rowntree (JRF).
Gofynnwyd i’r Comisiwn gasglu tystiolaeth bresennol a thystiolaeth newydd er mwyn llunio cyfres o sylwadau ac argymhellion ar gyfer yr holl wneuthurwyr polisi ac ymarferwyr, er mwyn:
- dwyn cynnydd yn y maes sy’n ymwneud ag anghenion tai yng Nghymru wledig;
- hybu’r broses o ffurfio cytundeb o ran sut orau i ddatrys y problemau a ganfyddir.
Yn dilyn cyfres o sesiynau derbyn tystiolaeth, digwyddiadau ymgynghori-â’r-cyhoedd, ymgynghoriad ysgrifenedig a chyfarfodydd un-i-un, y mae’r Comisiwn wedi cyhoeddi ei adroddiad terfynol (PDF, 1.81MB) . Y mae’r adroddiad hwn yn amlygu maint yr angen am dai yng Nghymru wledig ac yn cyflwyno cyfres o gynigion er mwyn diwallu’r angen hwn.
Er bod y gwaith hwn yn canolbwyntio’n benodol ar Gymru, y mae’n debygol y bydd o ddiddordeb i’r rheiny sy’n gweithio mewn meysydd tebyg mewn ardaloedd eraill yn y DU.
Dymuna’r Comisiynwyr a JRF ddiolch i bawb a roddodd o’u hamser i gyfrannu at y gwaith.
Darparodd JRF nawdd ariannol a chymorth ysgrifenyddol ar gyfer y Comisiwn.



