Joseph Rowntree Foundation

<<< Back to homepage

Sylfaen dystiolaeth y Comisiwn

Wrth baratoi’r adroddiad (PDF, 1.81MB), fe gasglodd y Comisiwn gorff eang o dystiolaeth.

Wrth baratoi ar gyfer gwaith y Comisiwn - ac yn gyson drwy gydol y broses hon - fe sicrhaodd yr arweinydd academaidd fod y Comisiwn yn defnyddio’r wybodaeth ansoddol a meintiol ddiweddaraf o amryw astudiaethau ymchwil gan y llywodraeth, sefydliadau academaidd a threfnyddiaethau eraill. Cyfeirir at yr adroddiadau hyn ym mhob rhan o’r adroddiad terfynol.

Tystiolaeth ysgrifenedig

Cyn ei lansiad ffurfiol ym mis Hydref 2007, fe anfonodd y Comisiwn bapur ymgynghori at randdeiliaid allweddol ac fe drefnodd ei fod ar gael ar wefan y Comisiwn. Derbyniwyd dros 40 o ymatebion ysgrifenedig. (Y mae’r papur ymgynghori ar gael o hyd.)

Tystiolaeth lafar

Rhwng Hydref 2007 ac Ebrill 2008, cynhaliodd y Comisiwn nifer o sesiynau derbyn tystiolaeth ledled Cymru wledig, ochr yn ochr â chyfres o gynadleddau dros y ffôn, cyfarfodydd ad hoc ac ymweliadau â safleoedd. Cynhaliwyd 6 sesiwn derbyn tystiolaeth (ar gyfer rhanddeiliaid gwahoddedig, a chyda rhannau o’r diwrnod yn agored i’r cyhoedd) yn:

  • Aberystwyth
  • Bangor
  • Caerdydd
  • Caerfyrddin
  • Y Trallwng

Cynhaliwyd dwy sesiwn ymgynghori-â’r-cyhoedd yn:

  • Aberystwyth
  • Llanrwst

Bu Datblygu Cymunedol Cymru a TPAS Cymru yn ddigon caredig i drefnu a hwyluso’r sesiynau hyn gyda’r cyhoedd, ac fe fuont hefyd o gymorth wrth recriwtio ystod eang o gyfranogwyr.

Ar y cyfan, darfu i’r sesiynau hyn alluogi’r Comisiwn i gwrdd a thrafod gyda:

  • mwy na 60 o drefnyddiaethau;
  • nifer o wneuthurwyr polisi neu ymarferwyr unigol ym maes tai;
  • mwy na 60 aelod o’r cyhoedd.

Hoffai’r Comisiwn ddiolch i’r holl drefnyddiaethau, gweithwyr proffesiynol ac aelodau o’r cyhoedd a fu mor garedig â chyfrannu at ei waith drwy ddarparu tystiolaeth ysgrifenedig ac/neu lafar na fyddai’r adroddiad hwn wedi bod yn bosibl hebddynt.

Share/bookmark this page

© Joseph Rowntree Foundation 2008

Investors in Diversity