Monitro tlodi ac eithrio cymdeithasol yng Nghymru 2005
Asesiad annibynnol o’r cynnydd sy’n cael ei wneud yng Nghymru o ran mynd i’r afael â thlodi ac eithrio cymdeithasol.
Mae’r adroddiad hwn yn seiliedig ar gyfres o 32 o ddangosyddion sydd wedi’u trefnu’n bedair pennod, sef: incwm, addysg, gwaith, iechyd a gwasanaethau. Mae’r dangosyddion yn defnyddio’r data diweddaraf sydd ar gael (yn nodweddiadol 2004 neu 2005) er mwyn enghreifftio tueddiadau dros amser a gwahaniaethau’n ymwneud â dosbarth cymdeithasol, oedran a’r rhywiau.
Mae i’r adroddiad ganolbwynt daearyddol cryf hefyd, sy’n adlewyrchu awydd i sylwi ar wahaniaethau yng Nghymru a gweld i ba raddau y mae gwahanol agweddau ar ddifreintedd yn gorgyffwrdd â’i gilydd.
Canfyddiad yr awduron yw bod cryn gynnydd wedi bod o ran lleihau tlodi yng Nghymru dros y blynyddoedd diwethaf, yn enwedig ymhlith aelwydydd ifanc a oedd heb waith. Mae’n sefyll allan, fodd bynnag, o’i chymharu â gweddill y DU oherwydd mynychder afiechyd ymhlith pobl o oedran gweithio, yn enwedig yn y Cymoedd. Er bod diffyg gwaith ac iechyd plant ar eu gwaethaf yn y Cymoedd hefyd, mae rhai agweddau eraill ar ddifreintedd, er enghraifft tâl isel, ar eu huchaf mewn ardaloedd gwledig. Mae’r adroddiad yn codi nifer o gwestiynau i’w hystyried o safbwynt polisïau yng ngoleuni’r canfyddiadau. Mae a wnelo’r rhain yn bennaf â’r berthynas rhwng tlodi a deilliannau addysgol, rhwystrau i weithio, swyddi o ansawdd wael a mynediad at wasanaethau.
Mae Monitro tlodi ac eithrio cymdeithasol yng Nghymru 2005 yn adnodd a chyfarwyddyd hanfodol i wneuthurwyr polisïau ac eraill yng Nghymru sydd am bwyso a mesur yr hyn sy’n digwydd ac sy’n ceisio deall yr heriau sydd o’n blaenau.
Caiff yr adroddiad hwn ei ategu gan wefan a gynhyrchwyd gan y Sefydliad Polisi Newydd sy’n cynnwys fersiynau wedi’u diweddaru o’r graffiau a mwy o ddadansoddiadau.
This publication is also available in English
Downloads
This report is part of the work topic.
Find out more about our work in this area.